0

 Amdanom Ni

Ar-lein ac yn ein siop ym Mhorthmadog, mae Siop Eifionydd yn rhoi llwyfan i'r gorau o gynnyrch diwylliannol ein bro a'n gwlad.

Gwledd o lyfrau

Dewis eang o lyfrau i blant ac oedolion - o'r nofelau a'r cofiannau diweddaraf i'r clasuron.

Cerddoriaeth

Y copïau hen nodiant angenrheidiol ar gyfer pob Eisteddfodwr a cherddor clasurol, ochr yn ochr â'r gerddoriaeth Gymraeg ddiweddaraf ar CD.

Anrhegion

Amrywiaeth ddifyr o grefftau - fel llwyau caru, gwaith llechen a chynnyrch artistiaid lleol - ac ystod o deganau i ddiddanu'r plantos.

Cymuned

Gyda dewis o bapurau bro ac ystod o gardiau ar gyfer pob achlysur, mae'r siop deuluol hon wedi bod wrth galon Porthmadog ers ei sefydlu ym 1970.

Os na allwch ddod o hyd i'r hyn rydych chi'n chwilio amdano ar ein gwefan, mae croeso i chi ein ffonio ni ar 01766 514045 neu yrru e-bost at siop@siopeifionydd.co.uk

 

Oriau agor y Siop yw;

Dydd Llun i Sadwrn, 09:00 tan 17:00.


Mwynhewch!

Share by: