1984 - George Orwell - Clawr Meddal
MAE'R BRAWD MAWR YN EICH GWYLIO CHI...
Ar gael am y tro cyntaf erioed yn Gymraeg, Mil Naw Wyth Deg Pedwar yw nofel arswydus George Orwell am ddyfodol tywyll dan lywodraeth dotalitaraidd.
Roedd George Orwell, sef ffugenw Eric Arthur Blair (1903-1950) yn newyddiadurwr, yn fardd ac yn draethodydd ond fe'i hadnabyddir orau heddiw fel un o nofelwyr mwyaf dylanwadol yr ugeinfed ganrif. Nodweddir ei waith gan sylwebaeth gymdeithasol a beirniadaethau o dotalitariaeth ei gyfnod sydd eto'n oesol, ac mae ei gampweithiau mwyaf adnabyddus, yn eu plith Animal Farm a Nineteen Eighty-Four , ymhlith y nofelau mwyaf poblogaidd erioed mewn unrhyw iaith.
Wedi'i chyhoeddi'n wreiddiol yn 1948, hwyrach mai Nineteen Eight-Four yw'r nofel ddistopaidd enwocaf erioed a bu'n gyfrifol am gyflwyno bathiadau newydd i'r iaith Saesneg fel Big Brother, Doublethink, Thought Police ac Orwellian. Y cyfieithiad hwn gan Adam Pearce, cyfieithydd Yr Hobyd , yw'r cyntaf yn Gymraeg.
Sylwer: Mae gennym ddau fersiwn gwahanol o Mil Naw Wyth Deg Pedwar ar werth: fersiwn clawr papur rhatach yn y gyfres Clasuron Byd , a fersiwn clawr caled "Deluxe". Mae'r ddau'n cynnwys cyfieithiad llawn o nofel Orwell gan gynnwys yr atodiad "Egwyddorion y Newyddiaith ( The Principles of Newspeak)" ysgrifennodd Orwell ei hun.
Mae'r fersiwn clawr caled deluxe hefyd yn cynnwys deunydd ychwanegol nad ydynt yn y fersiynau papur nag elyfr, sef lluniau ar dudalennau teitl tair rhan y nofel, rhagymadrodd gan y cyfieithydd Adam Pearce a geirfa Newyddiaith 3-ffordd. Mae hefyd yn cynnwys tudalennau mwy o faint (9"x6" o'i gymharu â 8"x5" yn y clawr papur), ffont mwy drwy'r llyfr i gyd, a fersiwn llawn gwaith celf Rowynn Ellis ar y clawr.

