0
60 Rhywbeth - Sioned Wiliam
£11.99
Ar gael
Product Details
Nofel gyda digon o hiwmor gan awdur sy'n enw cyfarwydd ym myd comedi teledu yn y Deyrnas Unedig. Aeth dros ddegawd heibio ers i ni gwrdd â Delyth, Anwen a Nia yn Dal i Fynd. Nawr maen nhw wedi cyrraedd eu chwedegau. Dy'n nhw ddim callach, cofwch, er bod eu bywydau wedi gweld newid mawr. Ond sut mae byw bywyd fel menyw hŷn? Oes 'na reolau? Ac yn fwy pwysig - sut mae rhywun yn mwynhau?
Darparwyd yr isod gan y Cyhoeddwr:
Bywgraffiad Awdur:
Cafodd Sioned Wiliam ei geni yng Nghaerfyrddin a’i magu yn y Barri. Mae ei nofel gyntaf Dal i Fynd wedi ei opsiynu gan gwmni teledu Working Title. Cynhyrchodd amryw o raglenni comedi i’r prif rwydweithiau. Rhwng 1999 a 2006 roedd yn Bennaeth Comedi Rhwydwaith ITV. Bu’n gynhyrchydd annibynnol am flynyddoedd yn gweithio ar sioeau fel Tonight With Jonathan Ross, iDot a Big Train. Bu’n gomisiynydd comedi i ITV ac i BBC Radio 4. Mae’n adolygu theatr a theledu yn ysbeidiol ar y radio ac yn un o sylfaenwyr Gŵyl Primadonna.
Gwybodaeth Bellach:
Fe fydd y nofel ffraeth hon am fywydau menywod yn llawn cyfrinachau ac yn adeiladu ar lwyddiant y bedair nofel gyntaf gyda stori gyfoes arall fydd yn hawdd i’w darllen, yn arwain y darllenydd ymlaen er mwyn datgelu beth sy’n digwydd nesaf ac yn llawn o’r digri a’r dwys. Mae'r nofel lawn hiwmor hon yn dilyn poblogrwydd Dal i Fynd, Chwynnu, Cicio’r Bar a Y Gwyliau.
60 Rhywbeth - Sioned Wiliam
Beth am rhain?
Display prices in:
GBP











