Aberfan: Stori Un Teulu
Dehongliad nofel raffig o drychineb Aberfan, wedi'i adrodd o safbwynt un teulu. Ar Hydref 21, 1966, llifodd mynydd o slwtsh du i lawr o'r mynydd a boddi pentref bach Aberfan, Merthyr Tudful, gan ladd 144 o bobl, y rhan fwyaf ohonyn nhw'n blant. Gwnaeth aelodau teulu Jack Lewis fyw drwy'r drychineb, sydd erbyn hyn yn cael ei chydnabod fel un o'r trychinebau glofaol gwaethaf yn ein hanes.
Mae Jack Lewis yn Gymro Cymraeg a darliuniwr ifanc o Ferthyr Tidfyl sydd newydd raddio o Kingston School of Art yn Llundain.
Mae Jack yn ffocysu ar yr iaith Gymraeg, hanes Cymru.
Mae newydd arddangos ei waith yn amgueddfa Cynon Valley yn Aberdare fel rhan o prosiect Amgueddfa Cymru ‘Valleys Re-told’. Mae ‘Aberfan: Stori Teulu’ yn seiliedig ar brofiadau teulu Jack o Drychineb Aberfan yn byw yn y pentref ar y pryd. Mae Jack nawr yn byw yng Nghaerdydd.

