0
Bachu Cyfle - Ifan Phillips
£11.99
Ar gael
Product Details
|
Cyfrol ddirdynnol yn dilyn bywyd Ifan Phillips - chwaraewr rygbi poblogaidd a chwaraeodd dros 40 o weithiau i'r Gweilch a gollodd ei goes mewn damwain beic modur erchyll.
The memories of Ifan Phillips, a former rugby player, as he copes with life after losing his leg. |
||
|
Bywgraffiad Awdur:
Daw o Grymych yn wreiddiol. Roedd wedi sefydlu ei hunan yng ngharfan y Gweilch adeg y ddamwain. Bu’n rhan o’r tîm dan 20 olaf o Gymru i ennill y Gamp Lawn yn 2016, ac yn ystod haf 2021 cafodd y cyfle i ymarfer gyda phrif garfan Cymru. Mae bellach yn sylwebydd ar gemau rygbi ac yn byw yng Nghwm Gwendraeth.
Gwybodaeth Bellach:
Yn y gyfrol mae Ifan yn adlewyrchu ar ei fywyd a’i yrfa a sut y bu bron colli ei fywyd yn y ddamwain ger stadiwm Swansea.com. Mae’n dangos dewrder rhyfeddol Ifan a’i agwedd gadarnhaol at fywyd, yn cynnwys ei falchder o gydio mewn gyrfa newydd yn sylwebu ar gemau rygbi i S4C.
Ceir stori cefndir Ifan yng Nghrymych (yn fab i chwaraewr rhyngwladol), ei yrfa broffesiynol gyda’r Gweilch a’r Scarlets, y ddamwain, ac ymlaen at y cyfnod hir o ymgyfarwyddo gyda’i sefyllfa newydd yn gorfforol ac yn emosiynol a'i obeithion i'r dyfodol. |
Bachu Cyfle - Ifan Phillips
Display prices in:
GBP

