0

Caniadau - John Morris-Jones

£9.99
Ar gael
Product Details

“Henaint ni ddaw ei hunan”;—daw ag och

Gydag ef, a chwynfan,
Ac anhunedd maith weithian,
A huno maith yn y man.

Yn rhinwedd ei waith mewn meysydd academaidd, John Morris-Jones (1864-1929) yw un o ffigurau pwysicaf hanes llenyddiaeth Gymraeg, ac roedd yn rhan allweddol o’r dadeni a welwyd mewn barddoniaeth Gymraeg ar ddechrau’r ugeinfed ganrif.

Er yr ystyrir ei farddoniaeth yn llai pwysig na’i waith mewn meysydd eraill, roedd Caniadau , yr unig gyfrol o gerddi a gyhoeddodd, yn ddylanwadol iawn yn ei ddydd ac yn rhan allweddol o’i ymgyrch i wella safonau ieithyddol a barddonol ei gyd-Gymry. Mae’n cynnwys ei delynegion enwog fel ‘Cwyn y Gwynt’ ynghyd â’i englynion a’i awdlau. Roedd hefyd yn gyfieithydd medrus o farddoniaeth ieithoedd eraill ac mae’r rhain hefyd yn rhan bwysig o’r Caniadau , gan gynnwys ‘Penillion Omar Khayyâm’ , enghraifft brin o gyfieithiad i’r Gymraeg o waith llenyddol o’r tu allan i Ewrop.

Share this product with your friends
Caniadau - John Morris-Jones