0

Cenhadaeth y Cymry - D. Ben Rees

£13.99
Ar gael
Product Details

Bywgraffiad Awdur:

Bu D. Ben Rees yn Weinidog ffyddlon gydag Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn Lerpwl a'r cylch am drigain mlynedd. Mae'n ymddiddori yn hanes y genhadaeth a chyhoeddodd doreth o gyfrolau dros y blynyddoedd yn y maes hwn.
Gwybodaeth Bellach:
Dr Bobi Jones oedd y gŵr a fu'n pwyso arnaf i fynd ati i gasglu ynghyd gyfrol boblogaidd ar y cenhadon a aeth allan o Gymru i'r meysydd cenhadol.

Yr oedd ef wedi croesawu'n gynnes yn ei adolygiadau gwerthfawr y cyfrolau a luniais sef, Llestri Gras a Gobaith: Y Cymry a'r Cenhadon yn yr India , cyfrolau Cymraeg a Saesneg ar Josiah Hughes, y cenhadwr cyntaf o blith Cymry Lerpwl, ac ar y Dr H. Gordon Roberts, a fu'n gyfrifol am weld agor Ysbyty yn enw Cenhadaeth y Methodistiaidd Calfinaidd yn Shillong.
Y mae enwau eraill o Gymru wedi bod yn weithgar hefyd ar y maes cenhadol, ac ymdrech a geir yn y gyfrol hon i gynnwys hanesion o'r holl enwadau o Gymru a yrrodd weithwyr i bedwar ban byd.
- D. Ben Rees

Share this product with your friends
Cenhadaeth y Cymry - D. Ben Rees