Crocodeil yn Berwi Tegell - Non Prys Ifans
Trawma a roddodd fywyd i’r cerddi sydd yn y casgliad hwn, ond crebwyll a chrefft bardd a’u gwnaeth yn ddarnau i syfrdanu darllenwyr.
Fel hyrddiau o alar, mae’r cerddi hyn hefyd bron yn afreolus eu hamrywiaeth - o fyfyrdodau tameidiog i lif ymwybod rhyddieithol. Ac eto, er mor amrwd, nid casgliad uncyfeiriad sy’n dadbacio ac yn dadlwytho yn unig mo hwn, gan fod yma fardd all weld fflachiadau o harddwch - ac edrych am ymlaen - hyd yn oed o lygad poen annirnad.
Rhybudd cynnwys:
Mae cerddi’r casgliad hwn yn ymateb yn onest i ddigwyddiadau trawmatig ym mywyd yr awdur. Ceir cyfeirio helaeth at hunanladdiad, gan gynnwys disgrifiadau graffig, yn ogystal ag ymateb byrdymor i driniaeth IVF a genedigaeth drawmatig. Gellir dod o hyd i restr o adnoddau defnyddiol yng nghefn y pamffled.

