Cwis Cymru - Osian Wyn Rowlands
Dyma lyfr cwis arbennig, Cymreig ei naws gyda chwestiynau a phosau amrywiol, addysgiadol a hwyliog yn y Gymraeg - y cyntaf o'i fath! Mae ynddo ystod eang a chynhwysfawr o ddeunydd sy'n pontio sawl pwnc a maes gwybodaeth i apelio at gynulleidfa helaeth.
Yn wreiddiol o Borthmadog mae Osian bellach yn byw ym mhentref Llandwrog gyda’i wraig a’u tri o blant.
Ar ôl graddio mewn Biocemeg ym Mhrifysgol Bangor a dilyn cwrs TAR bu’n athro cynradd am 30 o flynyddoedd. Erbyn hyn mae’n gweithio fel Asesydd Ynni i ‘Datblygiadau Egni Gwledig’.
Yn ei amser sbâr mae’n mwynhau cadw’n heini, barddoni a photsian yn yr ardd. Mae hefyd yn chwarae rôl cwis-feistr yn nhafarn gymunedol Ty’n Llan, ac o hynny y daeth y syniad i greu llyfr cwis a phosau yn y Gymraeg ac yn Gymreig ei naws.

