0
Cymru'r Mentrau - Menna Jones
£15.00
Ar gael
Product Details
Eir ati yn y llyfr hwn i holi 13 o unigolion allweddol sydd wedi bod yn ganolog i lwyddiant mentrau cymunedol ar hyd a lled Cymru. Holir am y gwahanol fentrau hyn a geir o Fôn i Fynwy a'r hyn sy'n gyrru unigolion i fentro yn wyneb heriau ac anawsterau lu. Y canlyniad yw llyfr sy'n dathlu cyfraniad criw deinamig o unigolion, llyfr a ddylai ysgogi ac ysbrydoli eraill i fentro ac arloesi.
Bywgraffiad Awdur:
Magwyd Menna Jones ym mhentref Alltyblaca yng nghefn gwlad Ceredigion. Aeth i'r brifysgol yn Aberystwyth a rhwng 1995 a 2022, hi oedd Prif Weithredwr Antur Waunfawr, un o fentrau cymunedol mwyaf llwyddiannus Cymru. Bu'n gysylltiedig ag amryw fentrau eraill ac mae hefyd yn gweithio fel tiwtor Cymraeg i ddysgwyr.
Gwybodaeth Bellach:
Mae’r llyfr hwn yn cynnwys 13 pennod, h.y. pennod bob un ar gyfer 13 unigolyn allweddol a’r rheini’n gysylltiedig ag amrywiaeth o fentrau cymunedol ac ardaloedd ledled Cymru: Ceri Cunnington (Bro Ffestiniog); Dave Horton (ACE, Trelái, Caerdydd); Sarah Lloyd-Jones (Pobl a Gwaith, Cymoedd De Cymru); Gerallt Llywelyn Jones (Menter Môn); Marc Jones (Saith Seren, Wrecsam); Lis McLean (Menter Iaith Merthyr Tudful); Catrin O’Neill (Aberdyfi); Meleri Prysor (Partneriaeth Ogwen, Bethesda); Gwyn Roberts (Galeri, Caernarfon); Siân Stacey (Ymddiriedolaeth Ynys Enlli); Cris Tomos (Sir Benfro); Siân Elen Tomos (GISDA, Caernarfon); y diweddar Sel Williams (Bro Ffestiniog).
Cymru'r Mentrau - Menna Jones
Display prices in:
GBP

