Ffynnonloyw - Moelona
Nofel tair rhan am deulu tlawd o naw o blant a fagwyd ar fferm Ffynnonloyw yn ne Ceredigon yw hon o’r 1880au hyd ganol y 1920au; y fam yn eilun yr aelwyd a’r tad yn wynebu heriau difrifol wrth geisio talu am addysg (Seisnig) i’w plant. Trwy gyfrwng portreadau o lawenydd a galar, malais a chenfigen a llawer o ddigwyddiadau cythryblus rydym yn dod i adnabod cymeriadau a chymdogion lliwgar, drwg a da, sy’n gwneud y stori mor ddifyr i’w darllen.
Y prif gymeriad yw Nan uchelgeisiol, sy’n dod yn athrawes mewn tref o’r enw Penywaun, cyn symud i fyw gyda’i chwaer Mimi a’i brawd Defi Henry i ddinas Caeresgob (Caerdydd mae’n debyg). Portreadir daliadau Moelona ei hunan drwy droeon bywyd Nan sy’n ymgolli’n llwyr yn niwylliant Cymru ac sy’n datblygu diddordeb mawr yn adfywiad y Gymraeg mewn ymateb i’r dirmyg cyffredinol yr adeg honno tuag at ei mamiaith. Telir llawer o sylw hefyd i’r ymgyrch dros bleidlais i fenywod; mae Nan yn mynychu Eisteddfod Genedlaethol Llundain (1909) ac yn dyst i’r cyffro’n dilyn ymyriad y swffragét yn araith Lloyd George. Er ei bod wedi dyweddïo ậ’r Parchedig Harry Herbert, mae’n dod ậ’r berthynas i ben am ei fod ef yn gyndyn yn erbyn rhyddid i fenywod.
Pwnc sy’n dangos parodrwydd Moelona i drafod materion a osgoir gan lawer o’i chyd-awduron yw genedigaeth Iolo, plentyn anghyfreithlon Marged, chwaer hŷn Nan a gafodd ei haddysg ‘bant’. Datblygiad sy’n codi ael wedi hyn yw priodas Marged, deunaw oed, ag Isaac Ifans, diacon bump a thrigain mlwydd sy’n mabwysiadu ei mab. Yn y bennod olaf, lle mae Iolo, oedolyn erbyn hyn, yn annerch cynulleidfa yng nghapel Seilo, ceir digwyddiad dramatig, ac fe ddaw pawb o’r diwedd i wybod yr ateb i brif ddirgelwch y nofel – pwy yw/oedd tad Iolo?