0

Goreuon Heather Jones

£5.99
Ar gael
Product Details
UPC: 5016886237428

Dros y blynyddoedd, daeth Heather yn berfformwraig o safon yn y Gymraeg a'r Saesneg, ac y mae ei recordiau cynnar yn dal eu tir ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach. Gwelir yma dylanwad ei gwr cyntaf, Geraint Jarman yn ogystal a dylanwad yr athrylith o'r Solfach, Meic Stevens.

Hefyd mae prawf yma o ddawn Heather fel cyfansoddwraig, a'i gallu i gyfleu profiadau ei bywyd mewn ffordd ddirdynnol ar brydiau. Y llais yw'r elfen sy'n cydio'r cyfan wrth ei gilydd - wrth anwylo cân werin fel 'Aderyn Pur', yn cyfleu tristwch 'Cân y Bugail' neu'r bwrw iddi gydag arddeliad ar 'Jiaw!'; hynny a'r awydd i wneud popeth gyda graen, gyda chymorth cerddorion o safon uchel.

Traciau -

1. Glyndwr

2. Pam yr wyt ti’n wylo, wylo?

3. O dyma fore

4. Dan y dwr

5. Roedd gen i dy

6. Dyddiau a fu

7. Tra bo dau

8. Nos ddu

9. Cân y bugail

10. Aderyn pur

11. Mynd yn ôl i’r dre

12. Cwm Hiraeth

13 Jiawl

14. Cân i Janis

15. Paid ag eistedd

16. Penrhyn gwyn

17. Bachgen

18. Dwi ddim am dy weled…

19. Aur yr heulwen

20. Gwrando ar fy nghan

21. Syrcas o liw

22. Ble’r aeth haul y bore?

Share this product with your friends
Goreuon Heather Jones