0
Lan Stâr - Anthony Shapland
£10.00
Ar gael
Product Details
Cyhoeddiad cyntaf Anthony Shapland yw A Room Above a Shop, stori sy'n datblygu dros gyfnod o dair blynedd ar ddiwedd yr wythdegau. Dyma nofel dyner sy'n gafael. Wedi'i haddasu a'i chyfieithu gan Esyllt Angharad Lewis drwy ddeialog â'r awdur, mae Lan Stâr hefyd yn archwilio rôl iaith ym mherthynas y ddau gymeriad, gan chwarae gyda thafodiaith, rhuglder a newid cod.
Bywgraffiad Awdur:
Artist a llenor o Graig-Cefn-Parc yw ESYLLT ANGHARAD LEWIS. Mae wedi arddangos yn Oriel Mostyn, g39, Arcade/Campfa a Pontio yng Nghymru, ac wedi gweithio fel artist yn Yr Alban, Iwerddon, Yr Eidal, Gwlad Belg a Malta. Enillodd Wobr Ifor Davies yn Eisteddfod 2024 am ei pherfformiad Blobus a Phryderon Eraill. Mae’n gyd-olygydd ar Gyhoeddiadau’r Stamp.
Awdur ac artist o Gymro yw ANTHONY SHAPLAND, a sylfaenydd g39, gofod sy’n cael ei redeg gan artistiaid yng Nghaerdydd. Yn 2025, agorodd ei arddangosfa Celwyddgi Celwyddgi yng Nghanolfan Celfyddydau Aberystwyth; cafodd ei enwi mewn erthygl nodwedd gan yr Observer am ddeg nofelydd newydd; darlledwyd ei waith ffuglennol, Feathertongue, gan Short Works Radio 4 a chyhoeddwyd ei gyhoeddiad cyntaf, A Room Above a Shop, gan Granta.

Gwybodaeth Bellach:
Pan fo dau ddyn tawel mewn cymuned fechan yng nghymoedd de Cymru yn ffurfio cysylltiad petrus, nid yw’r naill na’r llall yn gwybod i le y gall hynny arwain. M yw etifedd siop nwyddau haearn ei deulu. Mae B un flynedd ar ddeg yn iau ac yn methu gweld dyfodol yn ei ardal enedigol, ond pan gynigia M swydd a llety iddo, mae'n derbyn y cynnig. Wrth i'r ddau ddyn weithio ochr yn ochr yn y siop, maen nhw hefyd yn dechrau cyd-fyw yn yr un ystafell uwchlaw’r siop. Maent yn byw bywyd na wnaethon nhw fyth ddychmygu fyddai'n bosib, bywyd a fyddai yn peryglu popeth pe bai eu perfformiad cyhoeddus yn llithro.
.
Lan Stâr - Anthony Shapland
Display prices in:
GBP