0

O Law i Law - T. Rowland Hughes

£10.99
Ar gael
Product Details
UPC: 9781917237543
Awdur: T. Rowland Hughes

“Gwyddwn yn fy nghalon mai dyma’r tro olaf y gwelid fy nhad yn y chwarel, a syllais dros y Neidr i gyfeiriad y ffordd y gwelswn F’ewythr Huw arni ar fy niwrnod cyntaf yn y gwaith. Do, aethai ugain mlynedd a mwy heibio er hynny, ond ni newidiasai’r blynyddoedd fawr ddim ar gadernid anferth y chwarel oddi tanaf. Rhoesant fwy o greithiau ar ei hwyneb, efallai, a dyfnhau’r archollion yn ei mynwes, ond arhosai hi o hyd mor ddigyffro a di-hid ag erioed.”

Wedi marw ei rieni, mae John Davies, chwarelwr canol oed, yn clirio eu tŷ, drwy werthu eu heiddo ‘o law i law’ i’w gymdogion. Dyma greiriau ei fywyd: fesul gwerthiant neu rodd mae’n hel atgofion melys a chwerw am ei fywyd a’i fagwraeth, ei berthynas gyda’i rieni a’i ewythr, a’r gymdeithas mae’n rhan ohoni.

Roedd T. Rowland Hughes eisoes yn adnabyddus fel cynhyrchydd radio a phrifardd adeg cyhoeddi O Law i Law, ei nofel gyntaf; ond bu’r nofel hon a'r rhai a’i dilynodd yn llwyddiannau ysgubol ddaeth â bri ac enwogrwydd i’w hawdur na phrofasai’r un nofelydd Cymraeg ers Daniel Owen. O Law i Law yw’r tawelaf a’r mwynaf o’i nofelau, a’r un sy’n dwyn y mwyaf o’i deunydd o fywyd y nofelydd ei hun.

Clawr papur, 226 o dudalennau.



After his parents' death, middle-aged quarryman John Davies must clear their house by selling off their possessions to their neighbours 'from hand to hand'. These are the relics of his own life: each sale or gift brings with it memories both bitter and sweet about his upbringing, his relationship with his parents and uncle, and the society in which he lives.

T. Rowland Hughes was already famous as a radio producer and prifardd when O Law i Law , "From Hand to Hand", was published in 1942; but this novel and the ones which followed it brought their author a fame and popularity no novelist in Welsh had known since Daniel Owen. O Law i Law is his quietest and gentlest novel, and the one which draws the most from the author's own life and experiences.

Paperback, 226pp.

Share this product with your friends
O Law i Law - T. Rowland Hughes