0
OMB - Dwi'n Banther!
£6.99
Ar gael
Product Details
Mae Menna, bellach yn 16 oed, wedi sylwi ei bod yn dechrau tyfu pedwar dant miniog - yn union fel o'r blaen. Ac ai siâp cynffon mae Dewi yn sylwi ar ei phen-ôl hi? Pan ddaw Dewi i'r ysgol efo cap gwlân ar ei ben, buan mae'r ddau yn sylweddoli fod yr hen felltith yn ôl. Troi'n banther – a dafad – yn y nos? Tydi hynny ddim yn gyfuniad da, na diogel iawn! Dilyniant hirddisgwyliedig i Pen Dafad.
Un o Ddolgellau yw Bethan Gwanas. Mae hi wedi cyhoeddi nifer lawer o nofelau i oedolion, dysgwyr Cymraeg, pobol ifanc a phlant, ac yn nofelydd profiadol a llwyddiannus sydd wedi ennill gwobr Tir na n-Og ddwywaith. Yn 2024, derbyniodd wobr Mary Vaughan Jones am ei chyfraniad i lenyddiaeth i blant a phobl ifanc. Mae'n rhan o'r podlediad Colli'r Plot.6
OMB - Dwi'n Banther!
Beth am rhain?
Display prices in:
GBP



