0
Penllechwedd - Rhiannon Thomas
£11.99
Ar gael
Product Details
Pentref bach distaw ydi Penllechwedd tan i gorff gael ei ddarganfod yno. Wrth i'r heddlu ymchwilio mae sawl dirgelwch arall yn dod i'r amlwg. Fydd y pentref na'r ardal wledig o'i chwmpas fyth yr un fath eto. Dyma nofel fydd yn apelio at ddarllenwyr nofelau ditectif a darllenwyr sy'n hoff o nofelau ag iddynt gefndir amaethyddol.
Penllechwedd is a quiet little village until a body is found there. As the police investigate, several other mysteries emerge. The village and the surrounding rural area will never be the same again. This is a novel that will appeal to readers of detective novels and readers who like novels with an agricultural background.

Bywgraffiad Awdur:
Ganed Rhiannon yn ymyl Wrecsam. Bu’n athrawes yn Aberdâr, Bangor a Bethesda a bu’n gweithio fel newyddiadurwraig i’r Herald Gymraeg. Heddiw mae hi’n ysgrifennu a gweithio fel tiwtor Cymraeg i Oedolion. Mae hi’n briod â Dafydd Thomas ac mae ganddyn nhw 4 o blant - Gwen, Gruff, Menna ac Ifan sydd wedi mynd dros y nyth.
Gwybodaeth Bellach:
Dywedodd Ioan Kidd yn ei feirniadaeth iddi yng nghystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen:
"Yr hyn sy'n ei dyrchafu o fod yn stori dditectif gyffredin yw'r cymeriadau cyfoethog a'u hanesion personol sy'n gefnlen i'r cyfan. O dipyn i beth, dysgir digon am wahanol gymeriadau'r stori i ddechrau amau bron pawb, fel sy'n weddus mewn stori dditectif dda..."

Gwobrau:
Dyma nofel a dderbyniodd ganmoliaeth uchel yng nghystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Tregaron ym 2022.
Penllechwedd - Rhiannon Thomas
Display prices in:
GBP