Rheinallt ap Gruffydd - Isaac Foulkes
“Un ymhen un; dyn dwy lath ymhen dyn dwy lath, ac mi a ymladdaf hyd y diferyn olaf o waed sydd yn fy nghalon!”
Sir y Fflint, y bymthegfed ganrif. Mae Ynys Prydain ar ganol Rhyfeloedd y Rhosynnau. Mae’r Cymry sy’n croesi’r ffin i Loegr yn cael eu trin fel dinasyddion eilradd yno, ac yn dioddef gormes cyfreithiau mympwyol a chreulon.
Pan gaiff y bardd adnabyddus Lewys Glyn Cothi ei gosbi am briodi Saesnes, mae’n gofyn cymorth gan yr uchelwr o Gymro, Rheinallt ap Gruffydd, marchog ac arwr, i ddial...
Roedd Isaac Foulkes (1836-1904) yn un o wŷr llenyddol gweithgar y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn y Gymraeg: ef oedd sefydlydd a golygydd y Cymro , cofiannydd Ceiriog a Daniel Owen, a cyhoeddwr nifer fawr o lyfrau. Roedd hefyd yn nofelydd, ac mae Rheinallt ap Gruffydd yn enghraifft cynnar yn y Gymraeg o Ramant Hanesyddol, genre fyddai’n dod yn boblogaidd iawn ymhlith nofelwyr yr oes.
Clawr papur, 116 o dudalennau.
Flintshire, the 15th century. The Wars of the Roses have divided Britain. Those Welshmen who cross the border to England are treated as second-class citizens, suffering under laws which as unjust, arbitrary and cruel.
When renowned poet Lewys Glyn Cothi is punished for marrying an Englishwoman, he seeks assistance from Welsh nobleman Rheinallt ap Gruffydd, to exact his revenge...
Isaac Foulkes (1836-1904) was one of the extremely productive literary figures of Victorian Wales: he was the founder of Y Cymro and Ceiriog and Daniel Owen's biographer (and erstwhile editor), and published innumerable books. Among them was Rheinallt ap Gruffydd , an early example in Welsh of the popular genre of Historical Romance.
Paperback, 116 pp.