0

Sicrwydd Bendigaid - Trebor Edwards

£3.99
1 ar gael
Product Details
UPC: 5016886253022

Dyma Sain yn cyhoeddi cryno-ddisg o Trebor yn canu deuddeg o emynau, wyth yn Gymraeg a phedair yn Saesneg. Mae rhai ohonyn nhw yn rhai poblogaidd megis O fy Iesu bendigedig, Tydi a wnaeth y wyrth ac Abide with me, eraill ddim mor adnabyddus, nid fel emynau a genir yn unawdau beth bynnag, megis Fy Nuw fy Nhad fy Iesu ar y dôn Pen-lan a Wel dyma hyfryd fan ar y dôn Clorach, a fydd, synnwn i ddim, yn un o’r ffefrynnau. Fe’u trefnwyd ar ei gyfer gan Annette Bryn Parri a hi hefyd sy’n cyfeilio, ac y mae hynny ynddo’i hun yn warant o safon uchel.

Beth sy’n gwneud Trebor yn ganwr mor dda, yn ganwr mor boblogaidd? Mae’r ateb yn syml: cynhesrwydd ei lais a’i eirio clir. Ond mae mwy iddi na hyn’na hefyd. Nid argraff yn unig yw’r cynhesrwydd yn ei lais, nid act y datganwr proffesiynol, ond adlewyrchiad a mynegiant o’i bersonoliaeth gynnes, hoffus ef ei hun. A’r geirio clir? Dylanwad ei fagwraeth a’r cefndir cerddorol cyfoethog y magwyd ef ynddo yn y Betws, ac yn fwy na dim, dylanwad ei daid,. ei athro cerdd, ei fentor, ei arwr ym myd y gân. Y mae’r rhinweddau hyn i’w cael eto yn y gryno-ddisg newydd hon a bydd miloedd cefnogwyr Trebor yn llawenhau o’i gweld yn cael ei chyhoeddi.

Ac wrth wrando arni, cofiwch fod emynau yn golygu mwy i Trebor na chanu unawd a gwerthu record, gan ei fod hefyd yn codi canu o Sul i Sul yn ei gapel, capel y Gro yn y pentref. Trowch y peiriant ymlaen, eisteddwch yn gyfforddus a gadewch i’r hyfryd lais olchi drosoch, a bydd yr emynau hyn yn dod â llonder i’ch calon, gwên i’ch wyneb ac ambell ddeigryn i’ch llygaid.

  1. Dyma Fy Stori Dyma Fy Nghân
  2. O Fy Iesu Bendigedig
  3. Abide With Me
  4. A Yw Fy Enw I Lawr?
  5. Arglwydd Iesu Dysg Im Gerdded
  6. Love Divine All Loves Excelling
  7. Pererin Wyf
  8. Tydi A Wnaeth Y Wyrth
  9. Fy Nuw Fy Nhad Fy Iesu
  10. The Old Rugged Cross
  11. Wel Dyma Hyfryd Fan
  12. How Great Thou Art
Share this product with your friends
Sicrwydd Bendigaid - Trebor Edwards