0
To - Meinir Pierce Jones
£0.00
Ar gael
Product Details
Dyma stori Tonwen Neli Tomos - TNT neu To i'w ffrindia - sy'n cychwyn cyfnod newydd yn ei bywyd fel Swyddog Adfer Tyddyn Betw. Mae Tonwen yn glamp o gymeriad - yn geg a chalon fawr - ac ar dân dros lwyddo, hyd yn oed os ydi hynny'n golygu mentro gormod a pheryglu'r cyfan. Nofel ddwys-ddoniol gan awdur Capten fydd yn mynd â'r darllenydd ar daith emosiynol a chofiadwy.
Bywgraffiad Awdur:
Daw Meinir Pierce Jones o Nefyn yn Llŷn. Llwyddodd i wneud bywoliaeth yn trin geiriau – cyfieithu, golygu, ac ysgrifennu i blant ac oedolion. Rhwng 2011 a 2019 bu’n gweithio fel rheolwr project i ailagor a rhedeg Amgueddfa Forwrol Llŷn. Enillodd ei nofel hanes Capten Wobr Goffa Daniel Owen yn 2022.
Gwybodaeth Bellach:
'Nofel ffraeth ac amserol am dreftadaeth a pherthyn gan awdur sy'n feistres ar ei chrefft' - Rhian Cadwaladr
Gwobrau:
Enillodd Capten, nofel flaenorol Meinir Pierce Jones, Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ceredigion 2022
To - Meinir Pierce Jones
Beth am rhain?
Display prices in:
GBP


