0

Tyrbo Tyrd Adref

£7.99
Ar gael
Product Details

Stori am gi defaid ar fferm yn Llŷn - Tyrbo - yn mynd ar goll. Mae Twm, ffrind pennaf Tyrbo yn torri'i galon ac yn colli diddordeb yn ei hoff bethau. Ond mae'r holl gymuned yn ceisio helpu i ddod o hyd i Tyrbo - o ffrindiau ysgol Twm, i'r cigydd, i'r plismon cefn gwlad. Mae pawb eisiau gweld y ci yn cyrraedd adref. Nofel anturus ac emosiynol.

Mae Twm a Tyrbo yn ffrindiau gorau. Mae’r ddau wrth eu boddau ar y fferm yn chwarae, yn helpu ac yn mynd am dro i’r traeth.

Ond pan ddaw Twm adref o’r ysgol un prynhawn Gwener, does dim golwg o’r ci. Mae pawb yn mynd ati i chwilio gan greu posteri ac ymgyrchu ar y cyfryngau cymdeithasol, ond mae’n dod yn amlwg fod Tyrbo ar goll.

A fydd Twm yn dod o hyd i’w ffrind gorau?

Stori am gyfeillgarwch a chariad pobl at gŵn

Share this product with your friends