0

Woof - Elgan Rhys

£8.00
Ar gael
Product Details

DEWIS Silff Lyfrau Cyfnewidfa Lên Cymru - Hydref 2024

Woof yw’r drydedd gyfrol yng nghyfres Sgriptiau Stampus, sy’n rhoi platfform i ddramau cyfoes yn y Gymraeg. Fe’i cyhoeddir union bum mlynedd wedi’r perfformiad cyntaf, ddiwedd Ionawr 2019 gan Theatr y Sherman.

Mae’r darn yn dilyn cyfnod ym mywydau dau ddyn ar drothwy eu tridegau, wrth iddynt ddisgyn mewn cariad a sylweddoli’n araf fod yr hyn sydd ei angen ar y naill a’r llall yn wahanol. Mae ysgrifennu cignoeth a thelynegol Elgan Rhys yn croniclo’r tensiwn sy’n cronni rhwng Daf a Jesse wrth i’r ddrama fynd rhagddi ac yn dawnsio’n fedrus rhwng doniolwch, tynerwch a thywyllwch.

Gyda ffotograffau o’r cynhyrchiad gwreiddiol gan Chris Lloyd a rhagair newydd gan y dramodydd.

Share this product with your friends
Woof - Elgan Rhys