Ymarfer Byw (I'r Byw)
Fis Hydref 2025, rhyddhaodd Dafydd Owain Ymarfer Byw, ei ail albwm fel artist unigol. Aeth yr albym ymlaen i ennill Record Hir Orau yng Ngwobrau’r Selar 2026, ynghyd a Gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2026, gan ennill canmoliaeth gan feirniaid cerddorol a gwrandawyr fel eu gilydd.
Daeth yr albwm i’r wyneb mewn cyfnod hynod anodd i’r cerddor. Mae’r gyfrol yn rhannu ei ymgais bersonol i ddeall sefyllfa anghyfarwydd a gwneud synnwyr o’r byd o’i gwmpas. Ceir yma eiriau caneuon yr albym yn eu cyfanrwydd, yn ogystal a cherddi a monolgau, a gyhoeddir am y tro cyntaf.
Yng ngeiriau rhagair Manon Steff an Ros:
“Diolch, diolch i Dafydd Owain am y gwahoddiad i’r tywyllwch gonest, cignoeth, pwysig yma.”
Canmoliaeth i’r albym Ymarfer Byw
“Stori ddylai Gymru gyfan ei chlywed, a gwrando. Gan nad oes unrhyw albwm gyfoes o’r fath wedi bod yn hanes ein hiaith.” Guto Elis,
Golwg 360
“Un o'r albymau pwysicaf o Gymru y degawd hwn.” Stephen Price,
nation.cymru

