0

Ystlum - Elen Ifan

£7.00
Ar gael
Product Details

Ar ddiwrnod fel heddi

dwyt ti ddim yn gweld y wawr
ond yn ei deimlo.

Dyma ddilyniant o gerddi cyfarwydd a newydd sy’n dilyn cylch blwyddyn – gan ddechrau o dorcalon yr Hydref drwy fisoedd bach y gaeaf, at dyfiant y Gwanwyn a hyder haf. Mae’n gasgliad tyner a thlws sy’n ymrafael â manylion y profiad o fod yn fenyw ifanc – rhwng cymhlethdod perthnasau, colled, cyfeillgarwch, tinder, cof capel, teithio’r byd a darganfod llonyddwch yng nghylchdro’r tymhorau.

Cafodd y casgliad ei argraffu yn wreiddiol mewn dau amrywiad ar ei ddiwyg, gyda’r dewis o glawr gyda phalet lliwiau gwanwynol neu hydrefol; cafwyd ail argraffiad mewn palét dan y teitl ‘Mwyara’. Bydd pob cyfrol hefyd yn dod gyda dau brint maint cerdyn post o waith gan Shannon Haswell a Hannah Campbell, sy’n gefnlen i rai o’r cerddi.

Mae Elen wedi bod yn cyhoeddi ei barddoniaeth ar y cyfrif instagram @ystlum ers 2019. Mae hi’n byw yng Nghaerdydd, yn darlithio yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, ac yn dal i weithio ar ei gardd.

Share this product with your friends
Ystlum - Elen Ifan