0

Cathl i'r Eos - Alun

£7.99
Ar gael
Product Details

"Er dichon fod ei chalon wan

Yn delwi dan y dulid,
Ni chwyna, i flino'i hannwyl rai,-
Ei gwên a guddia'i gofid:
Ni pheidia'i chân trwy ddunos faith,
Nes gweled gobaith golau
Yn t'wynnu, megis llygad aur,
Trwy bur amrantau'r bore."

Roedd Alun, a defnyddio enw barddol y brodor o'r Wyddgrug John Blackwell (1797-1840), yn un o feirdd Cymraeg mwyaf llwyddiannus a phoblogaidd rhan gyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Er nad oes dim ond cymharol ychydig o'i waith wedi goroesi, ystyrir ef yn ddolen gyswllt bwysig yn natblygiad y traddodiad telynegol Cymraeg.

Mae'r detholiad hwn o'i waith yn cynnwys mwyafrif helaeth y cerddi o'i eiddo sy'n hysbys; gan gynnwys yr awdlau enillodd iddo sawl gwobr mewn Eisteddfodau taleithiol yr 1820au, nifer o englynion, ynghyd â'i gerddi yn y mesurau rhydd, sef y gweithiau daeth yn fwyaf adnabyddus amdanynt. Gyda rhagymadrodd gan yr academydd enwog Robert Rhys.

Share this product with your friends
Cathl i'r Eos - Alun